Cartref

Y deg ffilm uchaf ar y rhestr o’r holl ffilmiau anhysbys a wyliwyd fwyaf erioed’ yng Nghymru

Sefydliad Ffilm Prydain a Paul Merton yn dadorchuddio ‘y deg ffilm uchaf ar y rhestr o’r holl ffilmiau anhysbys a wyliwyd fwyaf erioed’ yng nghymru i ddathlu 25 mlynedd o arian y loteri genedlaethol.

  • Mae archif ar-lein Britain on Film o dros 10,000 o ffilmiau gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) wedi cronni 75 miliwn o edrychiadau ers ei lansio yn 2015 ac yn cynnwys ffilmiau o bob cwr o’r DU.
  • Mae’r rhestr o’r 10 ffilm a wyliwyd fwyaf o Gymru yn cynnwys Swansea, Victoria - Pontarddulais Railway, 1964 (June); Snow Llanelli 1982; a Tryweryn, the Story of a Valley (1965). 
  • Mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi dros £12.7 miliwn mewn dros 670 o brosiectau sy’n ymwneud â ffilmiau yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, o ffilmiau annibynnol i glybiau ffilmiau cymunedol.


Mae Pride, I Am Not a Witch, Dark Horse, Eternal Beauty, Gwen, Submarine, Journey’s End, The Lighthouse a Queerama ymysg rhai o’r ffilmiau mwyaf adnabyddus y DU sydd wedi derbyn y clod uchaf gan feirniaid ac sydd naill ai wedi’u cynhyrchu gan ddoniau o Gymru neu eu ffilmio yng Nghymru – ac mae’r cyfan oll wedi cael cefnogaeth gan arian y Loteri Genedlaethol trwy’r BFI a/neu Ffilm Cymru Wales.

Fodd bynnag, nid yw rhai o’r ffilmiau a wyliwyd fwyaf yng Nghymru yn ffilmiau poblogaidd prif ffrwd ag elw mawr. Nid ydynt yn cynnwys actorion sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac nid ydynt ychwaith yn cynnwys cerddoriaeth gyffrous. Maen nhw’n ystod eang o raglenni dogfen, ffilmiau cartref, eitemau newyddion, rhaglenni teledu sydd wedi’u hanghofio a ffilmiau llywodraeth trwy gydol y ganrif ddiwethaf sydd wedi’u cynnwys o fewn prosiect Britain on Film gan y BFI a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol.

Y ffilm sydd ar frig y rhestr o ffilmiau lleol a wyliwyd fwyaf yng Nghymru yw Swansea, Victoria - Pontarddulais Railway, 1964 (Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – cofnod o un o’r teithiau trên olaf o Orsaf Fictoria Abertawe i Bontarddulais cyn iddo gau, gyda Snow Llanelli 1982 yn dilyn hyn yn yr ail safle (Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru sef fideo cartref sy’n dangos Llanelli fel golygfa drawiadol o’r gaeaf fel y bydd eira yn gorchuddio ei strydoedd, a phibonwy yn hongian o doeau’r adeiladau. 

Mae Britain on Film yn brosiect uchelgeisiol – un o’r prosiectau archifol mwyaf a chymhlethaf a gynhaliwyd erioed gan y BFI ac un o’r rhai mwyaf llwyddiannus gyda dros 75 miliwn o edrychiadau ar-lein hyd yn hyn. Mae wedi sicrhau fod dros 10,000 o deitlau o werth 120 mlynedd o ffilmiau ar gael am ddim i gyhoedd Prydain, sydd wedi’u tynnu o Archif Genedlaethol y BFI ac archifau partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol ar draws y DU.  

Y 10 Ffilm uchaf ar y rhestr ffilmiau a wyliwyd fwyaf yng Nghymru trwy Britain on Film:

1. Swansea, Victoria - Pontarddulais Railway, (1964 Mehefin, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Cofnod o un o’r teithiau trên olaf – ar yr “old puff puff” – o Orsaf Fictoria Abertawe i Bontarddulais. Cafodd y llinell ei chau yn fuan wedi hynny, fel rhan o ail-siapio’r system rheilffyrdd https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-swansea-victoria-pontardulais-railway-1964-june-1964-online

2. Snow Llanelli (1982, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Fideo cartref sy’n dangos Llanelli fel golygfa drawiadol o’r gaeaf fel y bydd eira yn gorchuddio ei strydoedd, a phibonwy yn hongian o doeau’r adeiladau https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-snow-llanelli-1982-1982-online

3. Tryweryn, the Story of a Valley (1965, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ffilm am hanes dadleuol boddi pentref Capel Celyn ger Y Bala i ddarparu dŵr i Lerpwl
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-tryweryn-the-story-of-a-valley-1965-online

4. Ffilm Bersonol Camwell Rhif 62: Rheilffordd Sgwâr Raven, Y Trallwng (1963 BFI)
Rydym yn gweld un o drenau gwreiddiol Rheilffordd Stêm Llanfair a’r Trallwng gyda llu o wirfoddolwyr fel y maent yn croesi’r groesfan wastad ac yn mynd ar daith i ran o’r dref
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-camwell-personal-film-no-62-welshpool-raven-square-railway-1963-online

5. Come with Me to Cardiff (1954 BFI)
Mae’r darlledwr, Richard Dimbleby, yn teithio o amgylch Caerdydd flwyddyn cyn iddi ddod yn brifddinas Cymru 
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-come-with-me-to-cardiff-1954-online

6. Carnifal a Ffair Cei Connah (1965, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae Cymdeithas Pobl Hŷn Cei Connah yn arddangos mai nid yr ifanc yn unig sydd wedi’u trwytho mewn ysbryd carnifal
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-connahs-quay-carnival-and-fete-1965-1965-online
 
7. To the Four Corners (1957, BFI, atgynhyrchwyd gyda chaniatâd caredig Unilever)
Y ffilm lliw unigryw a phrin o Gaerdydd aml-hiliol yw uchafbwynt amlwg y ffilm deithio yma 
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-to-the-four-corners-1957-online

8. Rails To Talsarn (1964 Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Rheilffordd wedi’i thynnu gan geffyl: Wagenni tynnu llechi 'Prince' a 'Corwen' o chwarel Pen-yr-Orsedd i orsaf Tal-y-sarn, wedi’u tywys gan Mr Oswald Jones, gard/gyrrwr
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-rails-to-talsarn-1962-online

9. Promenâd Aberystwyth (1969 Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Gwelir Neuadd y Brenin, adeilad oedd yn dirnod yn Aberystwyth o’i agoriad swyddogol yn 1934 hyd at ei ddymchwel yn 1989, yma (ochr allanol yn unig) yn ei anterth, pan yr oedd yn cyflwyno peiriannau difyrrwch a cheir clatshio lawr staer a neuadd gyngerdd/dawns fyny staer lle daeth The Rolling Stones, Paul Tortelier, Led Zeppelin, the Halle Orchestra and Slade oll i chwarae https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-aberystwyth-promenade-trampoline-donkeys-paddling-pool-kings-hall-1969-online

10. Llanidloes (1965, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ewch ar daith i Lanidloes a gweld y dref farchnad hon fel ag yr oedd yn 1965. Edrychwch ar geir y cyfnod, yr orsaf reilffordd, yr adeiladau ffrâm bren a’r orsaf betrol
https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-llanidloes-1965-1965-online

Dywedodd Paul Merton, Comedïwr a hanesydd ffilmiau amatur: “Mae Britain on Film yn brosiect uchelgeisiol sy’n sicrhau fod hanes cyfoethog ffilmiau sydd heb eu gweld yn y DU o fewn cyrraedd i’r genedl gyfan, gyda miloedd o deitlau o werth 120 mlynedd o ffilmiau sydd wedi’u dethol o Archif Genedlaethol y BFI ac Archifau partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol led led y DU a Gogledd Iwerddon, o oes Fictoria hyd at yr 1990au.

“Er na fyddwch chi na finnau o bosibl heb glywed amdanynt erioed ac na fyddant byth ar restrau blychau tocynnau wythnosol y sinemâu, mae’r ffilmiau wedi dal dychymyg cyhoedd Prydain ac wedi cronni 75 miliwn anhygoel o edrychiadau ar-lein. Maent yn rhyfeddol ac yn ffordd wych o ymgolli yn ein hanes a’n treftadaeth am awr, neu hyd yn oed ddiwrnod. Rwyf yn gwirioni arno, ac mae’r cyfan diolch i’r sawl sy’n prynu’r tocynnau pinc hynny yn y siop gwerthu papurau newydd.”

Ym mis Mehefin eleni (2019), rhoddwyd cefnogaeth a chymeradwyaeth i brosiect i greu Archif Darlledu Cenedlaethol yng Nghymru i fynd yn ei flaen, diolch i grant o bron £5 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn helpu i sicrhau fod tua 240,000 awr o ddarllediadau radio a theledu o Gymru, sy’n siartio bron 100 mlynedd o ddarlledu ac yn cynnwys nifer o fomentau eiconig o hanes a diwylliant Cymru yn yr Ugeinfed Ganrif, yn ddiogel ac o fewn cyrraedd i genedlaethau’r dyfodol. Lleolir archif Cymru, sef y cyntaf o’u fath yn y DU, mewn pedwar hyb digidol yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Dywedodd Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol, Archif Sgrîn a Sain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Mae wedi rhoi pleser enfawr i ni allu rhannu cymaint o drysorau ffilm o gasgliad yr Archif Sgrîn a Sain gyda gwylwyr o bob cwr o’r DU – mae bron 800 o ffilmiau unigryw, sy’n adrodd hanesion anhysbys, gan ddatgelu tirweddau cyfarwydd (neu gudd), a llewyrchu golau ar ddarnau o hanes lleol neu gymdeithasol sydd wedi bod yn swatio yn y cromgelloedd ond wedi cael eu cadw’n ddigidol erbyn hyn ac maent ar gael i bawb eu mwynhau a dysgu ohonynt. Mae’r deg ffilm uchaf o Gymru ar chwaraewr y BFI yn adrodd hanesion arbennig sy’n ennyn chwilfrydedd o bob cwr o Gymru –hanesion teimladwy iawn megis 'Tryweryn, the Story of a Valley' (1965), am foddi pentref Capel Celyn, ger Y Bala; rhai yn llawn o atgofion, megis 'Rails To Talsarn' (1964) neu Swansea, Victoria - Pontarddulais Railway, 1964 (June), ac eraill, yn syml ddigon, yn dathlu’r llawenydd i’w weld mewn digwyddiadau cymunedol.”

Oeddech chi’n gwybod? Dyma ychydig o ffeithiau ffilm anhygoel o ran y loteri genedlaethol:

  • Yng Nghymru, mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi £12.7 miliwn mewn dros 670 o brosiectau sy’n ymwneud â ffilmiau dros y 25 mlynedd diwethaf gan gynnwys ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau megis I Am Not a Witch a chynhyrchu ffilmiau gan gynnwys Pride, Eternal Beauty, Gwen, Submarine, Journey’s End, The Lighthouse, Queerama a Dark Horse.
  • Mae £8.4 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer Ffilm Cymru, asiantaeth datblygu ffilmiau Cymru, wedi arwain at 73 o ffilmiau Cymreig yn cael eu cynhyrchu; 226 o wneuthurwyr ffilmiau yn cael eu cefnogi; 2,000 o swyddi a lleoliadau i hyfforddai yn cael eu creu yn y diwydiant; a buddsoddiad o  £81.4 miliwn mewn cynhyrchiadau.
  • Mae arian y Loteri Genedlaethol hefyd wedi mynd tuag at gynhyrchu ffilmiau ond hefyd i gymunedau – Buddsoddi mewn clybiau ffilmiau mewn ysgolion ar draws y rhanbarth, mentrau sinema cymunedol, cyrsiau Academi Ffilm y BFI i bobl ifanc 16 – 19 mlwydd oed, datblygu sgiliau a doniau a diogelu archifau ffilmiau.
  • Led led y DU, mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi dros £933 miliwn mewn bron 23,000 o brosiectau sy’n ymwneud â ffilmiau dros y 25 mlynedd diwethaf – o ffilmiau eiconig, rhaglenni addysg a sgiliau, i glybiau ffilmiau cymunedol a diogelu treftadaeth ffilmiau’r DU.
  • Mae ffilmiau a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol wedi ennill 400 o wobrau anhygoel gan gynnwys 15 Oscar®, 100 o wobrau BAFTA a 29 o wobrau Cannes, o dros 1,462 o enwebiadau.
  • Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi cynhyrchu mwy na 500 ffilm o’r DU dros y 25 mlynedd diwethaf, sydd wedi’u mwynhau gan gynulleidfaoedd adref a thramor, gan ddenu cynulleidfaoedd i brynu mwy na 100 miliwn o docynnau mynediad i’r sinema yn y DU.

Mae’r BFI wedi lansio cam nesaf Britain on Film, gyda ‘BFI Contribute’, sef llwyfan cyfrannu torfol i harneisio’r holl storïau gwych ac arbenigedd lleol sy’n deillio o awydd y cyhoedd i rannu eu gwybodaeth. Mae’r BFI yn galw ar y cyhoedd i wylio a chyfrannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt o bosibl am ffilmiau ar lefel lleol. Cymuned ar-lein yw Cenhadaeth Mapio Britain on Film y BFI (contribute.bfi.org.uk) y gall pawb edrych arno, gan rymuso pobl Prydain i gymryd rhan yn weithgar yn ymchwil y BFI, gan rannu arbenigedd lleol gyda gweddill y genedl i ddatgloi atebion a gwneud canfyddiadau go iawn i gyfoethogi ein dealltwriaeth am yr hanes a rannwn am ffilmiau.