Cartref

Gwaith ffilmio wedi cychwyn ar ffilm arswyd seicolegol Censor

Cyhoeddodd Silver Salt Films bod y prif waith ffotograffiaeth wedi cychwyn ar ffilm hyd llawn Censor yn Leeds.

Censor yw’r stori gythryblus am Enid, sensor ffilmiau, a ddaw o hyd i ffilm arswyd iasol o gyfarwydd sy’n cyfeirio’n uniongyrchol at ei gorffennol. Wrth iddi ddatod haenau’r dirgelwch y tu ôl i’r ffilm, mae’n colli gafael ar realaeth a chaiff ei llusgo i chwedl dylwyth teg ryfedd. Mae Censor, â’i delweddau o’r 1980au, yn llythyr serch atmosfferig ac ingol i glasuron arswyd y gorffennol.
 
Dyma ffilm hyd llawn gyntaf enillydd Seren Yfory Screen International 2018, Prano Bailey-Bond, a gyd-ysgrifennodd y sgript gydag Anthony Fletcher. Helen Jones sy’n cynhyrchu ar ran Silver Salt Films, ac mae’r awdur arswyd enwog Kim Newman yn Gynhyrchydd Gweithredol ochr yn ochr ag Ant Timpson (Timpson Films) ac Andy Starke (Rook Films, cynhyrchydd Sightseers, Kill List ac In Fabric). Mae Mary Burke (BFI), Lauren Dark (Film4) a Kimberley Warner (Ffilm Cymru Wales) hefyd yn Gynhyrchwyr Gweithredol.

Datblygwyd Censor gan BFI, Film4, Creative England drwy RWYDWAITH BFI a Ffilm Cymru Wales, a chaiff ei chyllido gan y BFI a Ffilm Cymru Wales (ill dau’n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol) a chan Film4, gyda chymorth Kodak Motion Picture a Cinelab London.

Seren Censor yw Niamh Algar (The Virtues, Calm With Horses) ynghyd â Michael Smiley (Jawbone, Kill List), Vincent Franklin (Gentleman Jack, Bodyguard), Nicholas Burns (Ghost Stories, Nathan Barley), Adrian Schiller (Victoria, The Last Kingdom), Max Bennett (Poldark, Bohemian Rhapsody) a Sophia La Porta (Four Weddings and a Funeral gan Hulu, Been So Long).

Protagonist Pictures sy’n cyflwyno’r gwerthiant byd-eang, a hynny yn dilyn llwyddiant yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto lle bu i’r cwmni gwerthiant annibynnol werthu’r ffilm arswyd seicolegol Saint Maud i A24 (UDA), Studiocanal (y DU), a Sony Pictures Worldwide Acquisitions (Rhyngwladol).

Censor yw un o’r sgriptiau mwyaf gwreiddiol ac arswydus a ddarllenwyd gennym yn Protagonist; mae iddi’r holl nodweddion i fod yn un o glasuron arswyd y dyfodol,” meddai Dave Bishop, Prif Weithredwr Protagonist Pictures. “Cyffrous iawn yw cael gweithio gyda Silver Salt Films a Prano ar ei ffilm gyntaf mawr ei disgwyl, a chael cydweithio eto â Film4 a’r BFI, gan adeiladu ar ein llwyddiant diweddar gyda ffilm genre dan arweiniad menywod, Saint Maud.”

Mae ffilmiau blaenorol Bailey-Bond wedi’u dangos mewn cannoedd o wyliau ffilm ledled y byd gan dderbyn gwobrau niferus. Caiff Bailey-Bond ei chydnabod yn un o gyfarwyddwyr arswyd cyfoes mwyaf cyffrous Prydain oherwydd ei gwaith ffilm dychmygus a steilus.

Seren Censor yw Niamh Algar, a fu’n cyd-serennu’n ddiweddar â Stephen Graham yn nrama mawr ei chlod Channel 4, The Virtues, gan y cyfarwyddwr a enillodd wobr BAFTA, Shane Meadows.