Cartref

Ffilm Cymru yn cyflwyno Rhwydweithio Cyflym yn yr Eisteddfod

A ydych chi’n weithiwr creadigol yn dymuno ysgrifennu, cynhyrchu neu gyfarwyddo ffilm? Efallai mai digwyddiad rhwydweithio cyflym Ffilm Cymru yw’r peth i chi, a hynny am ddim!

6 Awst
16:00 - 17:30
Look Out Cafe Bar, Heol Porth Teigr, Porth Teigr, Bae Caerdydd CF10 4GA.
Oed: 18+

Caiff cyfranogwyr y cyfle i gwrdd yn unigol â gwneuthurwyr ffilm o Gymru sydd wedi ennill eu plwyf, a hynny mewn sefyllfa hwyliog ac anffurfiol dan arweiniad cynrychiolwyr Ffilm Cymru. I gymryd rhan, cofrestrwch erbyn dydd Gwener 3ydd Awst drwy glicio ar y ddolen hon.

Noder: nifer gyfyngedig o leoedd sydd yn y digwyddiad hwn, a byddant yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Digwyddiad yn y Gymraeg fydd hwn.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Sinemaes yn yr Eisteddfod.