Cartref

Datblygu dyfodol ar gyfer doniau Cymru

Mae trasiedi Tryweryn, merch a drodd at y diafol, a chymuned drawsryweddol Delhi oll dan sylw mewn prosiectau newydd sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Ddatblygu Ffilm Cymru Wales.

Mae’r garfan ddiweddaraf hon ar lyfrau Ffilm Cymru Wales yn dangos sbectrwm eang o storïau gan leisiau amrywiol; mae pob un o’r prosiectau yn cynnwys menyw yn brif gymeriad neu’n gyd-brif gymeriad, a chydag o leiaf un fenyw yn y tîm creadigol craidd; mae bron i hanner yn cynnwys doniau BAME a/neu LGBTQ yn rôl yr awdur, y cyfarwyddwr neu’r cynhyrchydd, yn ogystal â chynrychiolaeth ar y sgrin; ac mae 40% o’r prosiectau yn yr iaith Gymraeg.

Wrth gyflwyno’r dyfarniadau datblygu newydd hyn, meddai Kimberley Warner, Pennaeth Busnes Creadigol Ffilm Cymru Wales, “Mae Ffilm Cymru Wales yn falch i fedru denu rhai o’r doniau mwyaf cyffrous a gwreiddiol ym myd creu ffilm yng Nghymru. Gwelsom gynnydd o 300% yn nifer y prosiectau datblygu sy’n bwrw ymlaen i gael eu cynhyrchu dros y tair blynedd diwethaf, ac mae llawer o’r diolch am hynny i’n system Magnifier sy’n cefnogi doniau, yn ogystal â’n hymrwymiad i ddiwylliant ffilm cynhwysol.”

Lluniwyd dull Magnifier Ffilm Cymru Wales i helpu’r cyfranogwyr i nodi ac adeiladu eu cynulleidfaoedd a’u ffrydiau refeniw gan gychwyn ar gamau datblygu cynharaf y prosiect, a’u hannog i fanteisio’n llawn ar eu syniadau.

Hijra

Dyma naid liwgar, galeidosgopaidd i mewn i fywydau dirgel a chreulon cymuned drawsryweddol hynaf y byd. Mae’r Hijra yn Delhi ar fin ailddiffinio eu hunaniaeth wrth i gyfreithiau newydd ac ymgyrchydd penderfynol ddechrau creu cynnwrf. Yn y prosiect hwn, mae’r cyfarwyddwr Indiaidd-Gymreig, Ila Mehrotra Jenkins, a’r cynhyrchydd Andrew Smith yn symud i fyd ffilmiau dogfen hir, wedi iddynt fod yn cydweithio ar lawer o ymchwiliadau a rhaglenni dogfen oriau brig o ansawdd uchel ar gyfer BBC4, Channel 4, ITV a Vice News.

How Black Mothers Say I Love You

Yn seiliedig ar ddrama lwyfan lwyddiannus Trey Anthony, mae’r ddrama ddeifiol hon yn dilyn hanes gweithwraig gymdeithasol lesbiaidd ddu sy’n dychwelyd i’w thref enedigol i ddod i delerau â’i mam sydd ar ei gwely angau. Mae’r wneuthurwraig ffilm Gymreig-Ganadaidd, Carys Lewis, ar waith ag addasu’r sgript i’r sgrin ar y cyd â Trey Anthony, a Clement Virgo (Greenleaf, The Wire) fydd yn cyfarwyddo. How Black Mothers Say I Love You fydd ffilm hir gyntaf Carys Lewis, yn dilyn ei ffilmiau byr, Stuffed ac Afiach a gefnogwyd gan Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI. Mae Lewis hefyd yn un o gydsylfaenwyr cydweithfa SHIFFT Female Filmmakers, ac yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Wneuthurwraig Ffilm Breswyl gyntaf Opera Cenedlaethol Cymru.

The Promise

Yn dilyn ei ffilm hir gyntaf ysgytwol, The Passing / Yr Ymadawiad, mae cyfarwyddwr Y Gwyll / Hinterland yn cyflwyno’r ffilm arswyd gyfnod seicolegol hon. Mewn cymuned arunig yng nghanolbarth Cymru ym 1890, caiff merch ifanc, Mari, ei hystyried yn hwren wedi iddi ddod i gyswllt ag ysgolfeistr gwadd. Wrth i’r gymuned droi’n greulon yn erbyn Mari, dyma hi’n troi ar y Diafol i’w helpu i dalu’r pwyth. Mae’r cynhyrchydd Ed Talfan a’r cyfarwyddwr Gareth Bryn yn gweithio gyda’r awduron Caryl Lewis a Mark Andrew; yn ddiweddar, bu’r tîm yn cydweithio ar gyfres ddrama 8 rhan Severn Screen, Craith / Hidden. Cyd-grëwyd y gyfres gan Mark Andrew ac Ed Talfan a chaiff ei darlledu gan y BBC yn nes ymlaen eleni.

Rhiannon

Y modd yr aeth awdurdod pwerus, di-hid, ati i foddi Tryweryn yw’r cyd-destun ehangach i’r prosiect hwn, wrth i un ddynes wynebu torcalon personol a phenodol iawn yng nghanol y distryw. Stori Gymraeg o golled a bregusrwydd yw Rhiannon, sy’n cael ei hysgrifennu gan Manon Eames, a hithau wedi derbyn clod y beirniaid am ei nofel a’i drama lwyfan, Porth y Byddar. Bethan Eames (Eldra, Cwcw) fydd yn cynhyrchu, a bydd Roger Williams (Bang) yn Gynhyrchydd Gweithredol.


Tremble

Dyma ffilm gyffro ddwyieithog yn seiliedig ar hanes gwir Henry Tremble, bwtler yn Sir Gaerfyrddin a gynllwyniodd i lofruddio ei gyflogwr a’i deulu un diwrnod ym 1876. Dyma ffilm hir gyntaf yr awdur-gyfarwyddwr o Gymru, Tracy Spottiswoode, ac mae hefyd yn archwilio cyfleoedd i gyfuno theatr byw a ffilm gan ddefnyddio technoleg ymdrochol. Caiff Tremble ei chynhyrchu gan Kathy Speirs, Moon Dogs.