Cartref

Straeon Iris cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg yn dychwelyd

Nod y cynllun yw annog rhagor o straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru ac yn Gymraeg.

 

Mae gan wneuthurwyr ffilm tan ddydd Mercher y 1af o Dachwedd 2017 i gael eu ceisiadau yn barod ar gyfer Straeon Iris 2. Lansiwyd Straeon Iris 2, sef cynllun ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Cymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru drwy BFI NETWORK yn ystod y Steddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni.

Mae'r cynllun ar agor i awduron unigol a thimau o awduron a chyfarwyddwyr, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu hyd at chwe ffilm fer cyn dewis un i gael ei chynhyrchu.

"Mae hwn yn gyfle anhygoel i gael straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ar y sgrin fawr gyda chefnogaeth lawn ein hariannwyr S4C a Ffilm Cymru Wales trwy BFI NETWORK. Rhan o'r daith yn unig yw cynhyrchu’r ffilm mae’r profiad yn parhau gyda’r ffilm yn sicrhau dangosiad fel rhan o ddathliadau nos agoriadol Gŵyl Gwobr Iris y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd. I fod yn gwbwl onest y ffilm hon yw'r unig ddarn o raglen 2018 sydd wedi'i gadarnhau hyd yma! "Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Iris, Berwyn Rowlands.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Mae Straeon Iris yn brosiect gwirioneddol gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio mewn partneriaeth am yr ail dro gyda Gŵyl Gwobr Iris a Ffilm Cymru. Yn ogystal â bod yn hyrwyddwr dramâu Cymraeg newydd, mae S4C wedi ymrwymo i ddangos amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn addo bod yn gyfle cyffrous i drawstoriad o leisiau gael eu clywed, ac yn ffordd o fynd â'r Gymraeg i bob cwr o'r byd."

Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NETWORK yn Ffilm Cymru Wales: "Mae Straeon Iris yn ychwanegiad pwysig i'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac yn adlewyrchu amrywiaeth eang o leisiau a straeon o Gymru. Mae'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ymlaen o'n cynllun ysgrifennu sgriptiau Cymraeg, y Labordy, a'r cynllun ffilmiau byrion presennol, Bannau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris ac yn falch o fod wedi'i chefnogi ers iddi ddechrau!"

Bydd y ffilm derfynol yn cael ei harddangos am y tro cyntaf yn Nghaerdydd yn ystod Gŵyl Gwobr Iris ym mis Hydref 2018.

Attachments:
Download this file (Straeon Iris 2 - ffurflen gais.doc)Straeon Iris 2 - ffurflen gais.doc[ ]71 kB