Cartref

I Am Not a Witch mewn sinemâu

Yn dilyn y premiere yn ystod Pythefnos y Cyfarwyddwyr yn Cannes, ac yn sgil cael ei dewis ar gyfer gwyliau ffilm Toronto a Llundain, bydd ffilm ddogfen gyntaf Rungano Nyoni yn cael ei rhyddhau yn y DU ym mis Hydref eleni.


Mae’r ffilm, sy’n sôn am ddewiniaeth yn Affrica heddiw, yn adrodd hanes Shula, merch fach naw mlwydd oed, sy’n cael ei chyhuddo o fod yn wrach. Wrth iddi geisio ymdopi â’i bywyd newydd, rhaid iddi ddewis naill ai i dderbyn ei ffawd, neu fentro i chwilio am ryddid a’r canlyniadau ddaw sgil hynny.

Cafodd yr awdur-gyfarwyddwr, Rungano Nyoni, ei geni yn Zambia a’i magu yng Nghymru, ac yma mae wedi sefydlu ei chartref. Mae wedi gwneud nifer o ffilmiau byrion gan gynnwys The List, a enillodd wobr BAFTA Cymru, gan dderbyn cefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales yn fuan iawn yn y broses, drwy gronfa’r  BFI NETWORK ar gyfer talent newydd.  Hon yw ei ffilm nodwedd gyntaf.

Bydd I Am Not a Witch yn cael ei rhyddhau gan Curzon Artifical Eye mewn sinemâu ac yn y Curzon Home Cinema o 20fed o Hydref.

12 – 15 Hydref
BFI London Film Festival
Archebwch docynnau yma

17 Hydref
Galeri, Caernarfon (BAFTA Cymru preview)
Archebwch docynnau yma

18 Hydref
Curzon Soho, London
Archebwch docynnau yma

20 Hydref
HOME, Manchester
Archebwch docynnau yma

20 – 26 Hydref
Watershed, Bristol
Archebwch docynnau yma

20 - 26 Hydref
Showroom Workstation, Sheffield
Archebwch docynnau yma

20 - 26 Hydref
Broadway, Nottingham
Archebwch docynnau yma

20 - 26 Hydref
Glasgow Film Theatre
Archebwch docynnau yma

20 - 27 Hydref
Irish Film Institute, Dublin
Archebwch docynnau yma

23 Hydref
Tyneside Cinema, Newcastle
Archebwch docynnau yma

27 Hydref - 2 Tachwedd
Wartermans, Brentford
Archebwch docynnau yma

27Hydref - 9 Tachwedd
Chapter Arts Centre, Cardiff
Archebwch docynnau yma

27 Hydref – 2 Tachwedd
Pontio, Bangor
Archebwch docynnau yma

3 - 8 Tachwedd
Phoenix, Exeter
Archebwch docynnau yma

3 – 9 Tachwedd
Dundee Contemporary Arts Cinema
Archebwch docynnau yma

4 - 9 Tachwedd
The Lexi Cinema, London
Archebwch docynnau yma

23 Tachwedd
Hull Independent Cinema
Archebwch docynnau yma

Mae I Am Not a Witch, a gynhyrchwyd gan Emily Morgan, yn gyd-gynhyrchiad rhwng y DU a Ffrainc. Fe’i hariannwyd gan Ffilm Cymru Wales, Film4, Aide aux Cinémas du Monde (CNC-Institut français) a’r BFI.