emilia jones stands in a field in Nuclear

Mae Nuclear y ffilm arswyd seicolegol ar gael ‘nawr

Cafodd Nuclear, ffilm arswyd gyffrous a chynhyrfus yr awdur Catherine Linstrum, ei dangos am y tro cyntaf yn y DU yng Ngŵyl Ffilm Raindance fis Hydref, a bydd yn cael ei rhyddhau yn ddigidol diolch i 101 Films.

Dyma’r ffilm gyntaf i’r awdures, sydd wedi ennill gwobr ‘Un Certain Regard’ yng Ngŵyl Ffilm Cannes, ei chyfarwyddo.

Mae Emma (Emilia Jones), merch ifanc sydd wedi cael niwed meddyliol sylweddol, a’i mam (Sienna Guillory,) yn ffoi rhag eu gorffennol hunllefus. Wrth geisio lloches mewn pentref unig maent yn cwrdd â bachgen ifanc arbennig (George MacKay). Ond tybed beth sy’n gorwedd dan wyneb y dieithryn hwn…

Wrth i’w berthynas ag Emma ddatblygu, a hithau wedi ei swyno gan ei obsesiwn â’r hen orsaf niwclear sy’n gwenwyno dŵr y llyn, mae’n sylweddoli bod rhaid iddi wynebu ei hofnau er mwyn eu goresgyn… gan gynnwys y gorffennol tocsic, arswydus sy’n mynnu dal ei afael ynddi.

Ysgrifennwyd Nuclear gan Catherine Linstrum gyda David J Newman, ac fe’i chynhyrchwyd gan Stella Nwimo drwy gynllun Cinematic Ffilm Cymru, a’i hariannu drwy bartneriaeth gyda’r BFI, gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, S4C a Melville Media Limited, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Great Point Media, Fields Park Media Partners a Warner Music Supervision.