screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Grip

Mae Grips yn gwneud yn siŵr bod yr hyn mae’r Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth eisiau ei gyflawni wrth ffilmio yn bosibl. Tra bo’r Cyfarwyddwyr yn meddwl am gelfyddyd y saethiadau, bydd y Grips yn meddwl sut maen nhw am symud y camerâu i wneud i hynny ddigwydd.

Maja Jensen

Dilyniant Gyrfa:

  • 2011-2014 BA Astudiaethau Ffilm a Theledu, Prifysgol Fetropolitan Llundain
  • 2014-2017 MA Creu Ffilmiau, Ysgol Ffilm Llundain
  • 2017 Rhaglen Hyfforddiant Grip Touchstone gyda Screenskills, Bectu, a Grips Branch
  • 2017-2019 Grip dan Hyfforddiant, yn gweithio ar amryw brosiectau, gan gynnwys fideos hyrwyddo cerddoriaeth, hysbysebion, teledu a ffilmiau nodwedd
  • 2019 Camu i fyny i fod yn ‘grip heb dystysgrif’

Nodau Gyrfa i’r Dyfodol:

  • Bod yn grip NVQ Lefel 3, ond am y tro, cael cymaint o brofiad â phosibl.

Uchafbwyntiau Gyrfa:

  • Gweithio ar bob math o brosiectau gydag unrhyw fath o gyllideb. O 3 wythnos o saethu yn y nos ar ddechrau mis Mawrth ym mwd Swydd Efrog i chwe wythnos o haul poeth iawn yng Nghymru.
  • Gweithio gyda phob darn o offer, o graeniau technegol i godi’r camera oddi ar ysgwydd y gweithredwr camera.
  • Gweithio gyda phob math o grips a gwneud fy ngorau bob tro.
maja jensen with a parrot

"We work closely with the Director of Photography or the camera operator to achieve whatever movement or lack of movement that they want... there are challenges, but don't be afraid to ask for help." - Maja Jensen