screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Dylunydd Prostheteg

Mae’r Dylunydd Prostheteg yn rôl arbenigol yn yr adran golur. Maen nhw’n gyfrifol am ddylunio a chreu colur effeithiau arbennig prostheteg.

Danny Marie Elias

A hithau’n meddu ar sgiliau helaeth a thechnegau arloesol, mae Danny Marie wedi sefydlu’i hun yn un o brif artistiaid colur Prydain. Cafodd ei gwahodd i rannu llwyfan gydag artistiaid amlwg ar nifer o achlysuron i ddangos ei gwaith i artistiaid colur proffesiynol ledled y byd. Mae’n cyflawni trawsnewidiadau colur newydd a blaengar yn rheolaidd, gan lwyfannu ei gwaith yn IMATS LA, Efrog Newydd a Llundain, MADs yr Almaen, UMAE Llundain, The Prosthetic Event Birmingham a The Professional Beauty Expo yn Ne Affrica, i enwi rhai yn unig.  
 
Mae ei harddull unigryw a’i sgiliau amrywiol wedi caniatáu iddi weithio nid yn unig fel artist gwallt a cholur ar y lefel uchaf, ond hefyd fel artist prosthetig o’r radd flaenaf. Bu’n gweithio gydag actorion adnabyddus ac yn chwarae rôl greiddiol mewn llawer o adrannau coluro a phrosthetig, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi sefydlu’i hun yn ddylunydd yn ei rhinwedd ei hun. Cysegrodd ei bywyd i ymroi’n llwyr i lawer o agweddau ar fyd colur, gwallt a phrosthetig, gan ddisgyn mewn cariad â’r maes. A hithau’n gredwr cryf mewn grym addysg, mae’n ymfalchïo nid yn unig mewn cynnal addysg yn ei gwaith ei hun ond hefyd yng ngwaith ei thîm a’r genhedlaeth sydd i ddod.  
 
Dros y blynyddoedd, ymroddodd i ddatblygu’i hun a dysgu’n barhaus, gan ymdrechu am berffeithrwydd bob amser. Yn ystod yr amser hwn, cefnogodd lawer o golegau, prifysgolion a sefydliadau addysg preifat, gan ddatblygu safon yr hyfforddiant colur, gwallt a phrosthetig sydd ar gael i fyfyrwyr. Mae wedi cymhwyso’n llawn fel athrawes a phob amser yn ymdrechu i ddarparu cyrsiau i gefnogi twf a datblygiad addysg. Yn 2013 ymgymerodd â rôl rheolwr stiwio yn Gorton Studio, cyfleuster hyfforddiant colur a phrosthetig sy’n adnabyddus ledled y byd. Hi oedd y prif diwtor yno am sawl blwyddyn tra’n parhau i weithio ar gynyrchiadau mawr fel rhan o dîm Millennium Fx. Yn ystod ei chyfnod yn Rheolwr Gorton Studios, bu hefyd yn rhan o’r gwaith o ddatblygu sawl cwmni arall, fel The Prosthetics Magazine, Neills Materials a The Prosthetic Event yn Birmingham. Mae’r profiad hwn yn unig wedi rhoi iddi’r profiad busnes unigryw sy’n disgleirio drwy ei gallu i redeg timau mawr, rheoli llwyth gwaith beichus a chynhyrchu’r hyn sy’n ymddangos yn amhosibl mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Dyma nodwedd amhrisiadwy wrth weithio ar gynyrchiadau mawr.  
 
Mae rhai o’i phrosiectau diweddaraf yn cynnwys: Star Wars ac Artemis Fowl gan Disney, Victor Frankenstein gan 20th Century Fox, Patrick Melrose, The King, The Spanish Princess, DR Who, Sherlock, The Crown, Keeping Faith, Vanity Fair, Show Dogs, Humans 3, White Princess, X-Factor, a Will. 

portrait of danny-marie elias

“it’s a huge collaboration – and also with a massive team of people behind me making these things possible… creating these otherworldly creatures.” - Danny Marie Elias