screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Dylunydd Gwisgoedd

Mae gwisgoedd yn greiddiol i ffilm neu ddrama deledu. Yn ogystal â chyfrannu at yr olwg, mae’n helpu’r actor i deimlo cyswllt emosiynol â’r cymeriad maen nhw’n ei chwarae drwy wisgo dillad y cymeriad.

Lindsay Bonaccorsi

Hanes Gyrfa

  • 1998/99 Diploma Ôl-Radd mewn Cynllunio Theatr, gan arbenigo mewn gwisgoedd. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
  • 1999/2005 Rolau Cynorthwyydd Gwisgoedd Theatr, Meistres Wardrob Teithiol a Dylunydd Cynorthwyol mewn digwyddiadau theatr a cherddoriaeth fyw.
  • Theatr y Torch, Theatr Sherman, Hijinx, Diversions, Everyman, Production North.
  • 2001/2005 Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant, Cynorthwyydd Gwisgoedd, Prif Eilydd ar gyfer dramâu teledu a ffilmiau byr. Pobol y Cwm, The Bench, A Light in The City, Crossroads, Doctor Who.
  • 2006/11 Goruchwylydd Gwisgoedd ar gyfer Doctor Who, Torchwood, Upstairs Downstairs.
  • 2003/2020 Dylunydd Gwisgoedd ar gyfer dramâu teledu, ffilmiau byr a hysbysebion.

Uchafbwyntiau Gyrfa

  • Goruchwylydd Gwisgoedd, ‘Doctor Who’, gan weithio ar leoliad yn Rhufain, Dubai a Croatia.
  • Dylunydd Gwisgoedd Cyswllt, ‘Torchwood – Miracle Day’.
  • Enillydd Gwobr BAFTA Cymru 2012, ‘Tati’s Hotel’.
  • Dylunydd Gwisgoedd ar gyfer drama ‘The Left Behind’ a enillodd wobrau RTS a BAFTA.

Nodau i’r Dyfodol

  • Parhau i weithio ar gynyrchiadau diddorol a heriol yng Nghymru, a gweithio i gynyddu amrywiaeth a hyfforddiant yn yr adran wisgoedd.
lindsay bonaccorsi

“You don’t have to go to London there is an awful lot going on here [in Wales].” - Lindsay Bonaccorsi