screen careers logo and sound assistant

Gyrfaoedd Sgrin: Cynorthwyydd Sain

Bydd y Cynorthwyydd Sain, sydd hefyd yn cael ei alw’n Weithredwr Bŵm, yn helpu’r Cymysgydd Sain drwy weithredu’r meicroffon sy’n sownd wrth bolyn hir, er mwyn dal sain o’r ansawdd gorau o ddeialog actor wrth iddyn nhw berfformio ar y set.

Chris Goding

Dilyniant Gyrfa:

  • 2003 – 2006 Prifysgol Gradd (BA) Prifysgol Bournemouth (Cynhyrchu’r Cyfryngau Rhyngweithiol)
  • 2006 – 2009 Cyfarwyddwr Cynorthwyol (rhedwr) Rhedwr Swyddfa (6 mis), Rhedwr Llawr (3 blynedd), 3ydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (6 mis)
  • 2009 – 2020 Adran Sain Hyfforddai (1 flwyddyn), 2il Gynorthwyydd Sain: (3 blynedd), Cynorthwyydd Sain 1af: 2015-presennol
  • Gwaith arall
  • Yn 2010 cefais y cyfle i weithio yn Ne Affrica am 6 mis fel rhan o griw dogfen bach 3-dyn ar gyfres The Lion Man. Rhwng gwaith / prifysgol ar gamau cynnar yn fy ngyrfa, roeddwn i’n rhan o griw safle Cyngor Caerdydd yn gweithio ar ddigwyddiadau dan ofal y cyngor yng Nghaerdydd (2000 – 2007)

Uchafbwyntiau Gyrfa

  • Gweithio dramor: Yr Eidal, Denmarc, Sbaen, Bwlgaria, De Affrica
  • Ffilmio llewod ac amryw anifeiliaid eraill ym mharciau cenedlaethol De Affrica
  • Cwrdd â llawer o bobl wahanol sydd bellach yn ffrindiau da
portrait of chris goding

"Be punctual on your time and time keeping … if you do get an opportunity to be a runner - maybe that is not what you want to do eventually - but take it, because you can learn all sorts of things on set." - Chris Goding