annes elwy in the toll, holding a piece of broken glass up to the light and looking at it.

Gwledd wedi’i ddewis ar gyfer SXSW

Bydd y ffilm arswyd gyfoes hon yn y Gymraeg yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn y byd yn yr ŵyl ffilmiau a chyfryngau arloesol fis Mawrth eleni.

Gwledd / The Feast yw ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Lee Haven-Jones, ac mae wedi’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Roger Williams, Joio.

Caiff y stori ei datgelu dros gyfnod o un noson wrth i deulu cefnog ddod ynghyd i gael swper moethus yn eu tŷ crand ym mynyddoedd Cymru. Gŵr busnes lleol a ffermwr cyfagos yw’r gwesteion, a’r bwriad yw taro bargen fusnes i gloddio yn yr ardal wledig o amgylch. Pan mae menyw ifanc ddirgel yn cyrraedd i weini arnynt am y noson, caiff credoau a gwerthoedd y teulu eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel ond aflonyddgar ddechrau datod eu bywydau. A hynny’n araf a bwriadol, gan arwain at y canlyniadau mwyaf dychrynllyd.

Sêr y ffilm yw Annes Elwy (Little Women), Nia Roberts (Under Milk Wood) a Julian Lewis Jones (Justice League), ynghyd â Steffan Cennydd (Last Summer) a Sion Alun Davies (The Left Behind).

Cynhyrchwyd Gwledd / The Feast drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales ac fe’i cyllidwyd gan S4C, Ffilm Cymru Wales, BFI (gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol) a Fields Park. Cynhyrchwyd y ffilm ar y cyd â Melville Media Limited gyda chymorth Great Point Media.

Bydd gŵyl ffilmiau SXSW eleni’n cael ei chynnal rhwng 16 a 20 Mawrth. Mae’r profiad digidol yn cynnwys dangos 75 o ffilmiau nodwedd, ynghyd ag areithiau cynhadledd, cyflwyniadau cerddorol, rhwydweithio, arddangosfeydd a mwy.