poster for concrete plans featuring a hand rising from a grave

Gallwch fod yn berchen ar Concrete Plans yn ddigidol o 23ain o Dachwedd

Ffilm newydd a ariennir gan Ffilm Cymru yw Concrete Plans, ffilm arswyd gan yr awdur-gyfarwyddwr Will Jewell a’r cynhyrchwyr Rob Alexander (Numan: Android in La La Land) a Kathy Spiers (Moon Dogs).

Rhaid talu rhai dyledion mewn gwaed…

Mae hen faenordy wedi mynd â’i ben iddo ac mae perchennog tir sy’n fyr iawn ei dymer ac â    phroblem ariannol ganddo yn taro ar ei debyg pan mae’n derbyn bil nad yw’n medru ei dalu. Mae amser yn prysur fynd heibio, ac mae’r adeiladwyr sy’n byw ar ei dir am ei waed. Pan ddaw’n amlwg nad oes arian ar gael mae pethau’n mynd yn flêr; mae’r gwahaniaethau cymdeithasol yn amlygu’u hunain fwyfwy, ac mae dadl syml yn dabtlygu’n enghraifft wirioneddol erchyll o drais wrth i’r cyfan fynd allan o reolaeth.

Gyda James Lance (Ted Lasso), Amber Rose Revah (The Punisher) a Steve Speirs (Upstart Crow), mae Concrete Plans hefyd yn cynnwys sgôr wreiddiol gan Paul Hartnoll, aelod o’r grŵp chwedlonol, Orbital.

 

You can also see Concrete Plans at Cardiff's Chapter Arts Centre from 27th November until 3rd December.