Addysg Ffilm
Mae Ffilm Cymru yn diffinio addysg ffilm fel gweithgareddau sy’n annog pobl i ymgysylltu â, mwynhau, deall, creu, archwilio a rhannu ffilm gydol eu bywydau.
Dylai hyn gynnwys o leiaf tri o’r meysydd addysg:
Arfer Creadigol
Archwilio’r gwaith o wneud ffilm fel cyfrwng creadigol, dangos y broses o sgrin i sgrin gan alluogi pobl i ddefnyddio ffilm ar gyfer eu creadigrwydd eu hunain.
Dealltwriaeth Feirniadol
Creu cyfleoedd i wylio ac i ddadansoddi ffilm er mwyn datblygu llythrennedd ac iaith ffilm.
Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol
Datblygu cynulleidfaoedd y dyfodol ar gyfer ffilm annibynnol, ac annog y nifer fwyaf posib o bobl i gymryd rhan yn niwylliant ffilm Cymru.