a line drawing of a seahorse in a human brain

Ffilm Cymru yn cefnogi The Almond and The Seahorse

Mae Ffilm Cymru wedi buddsoddi arian cynhyrchu yn y ffilm gyntaf i Celyn Jones ei chyfarwyddo, ac mae’r prosiect ar fin cychwyn ar y gwaith cyn-gynhyrchu.

Rebel Wilson (Pitch Perfect, Bridesmaids) a Janet McTeer (Ozark, Albert Nobbs) fydd yn serennu yn y stori deimladwy hon am ddau gwpwl sy’n archwilio sut effaith gall anaf difrifol ar yr ymenydd ei gael ar eu bywydau.

Bydd Jones yn cyd-gyfarwyddo The Almond and The Seahorse gyda’r sinematograffydd Tom Stern (Changeling), a enwebwyd am wobr Oscar. Mae’r ffilm wedi ei haddasu gan Kate O’Reilly o’i drama lwyfan ei hun, ac fe’i chynhyrchir gan Andy Evans, Sean Marley ac Alex Ashworth o Mad as Birds Films (Set Fire to the Stars, Six Minutes to Midnight).

Dylai’r gwaith ar y prif waith ffotograffiaeth ddechrau yng Ngogledd Cymru a Lerpwl ym mis Mawrth 2021. Bankside Films sy’n gyfrifol am yr hawliau gwerthu rhyngwladol.