a pair of glasses on a table

Connector: FireParty Lab

Mae FireParty Lab yn cynnig hyfforddiant a mentoriaeth i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sydd wedi eu geni neu sydd wedi eu sefydlu yng Nghymru.

Mae The Lab yn cynorthwyo cyfranogwyr i gryfhau eu perthynas gyda’u gwaith eu hunain ac i ddatblygu strategaethau emosiynol a phroffesiynol ar gyfer y dyfodol.

Mae’r diwydiant ffilm yn esblygu yn gyson ac mae’r sector yn un ariannol ansefydlog. Mae lles creadigol ac emosiynol wedi cael eu herio’n ddigyfaddawd yn ystod creisis  Covid-19.

Yn sgil cefnogaeth gan Gronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru, mae FireParty Lab yn cynnig cefnogaeth hyfforddi a mentora un-i-un, a gynhelir o bell, gyda phob cyfranogwr yn cael awr o gefnogaeth yn seiliedig ar berson ac yn seiliedig ar brosiectau.

Mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i wneud y canlynol:

  • Adnabod nodau personol a phroffesiynol a chanolbwyntio ar strategaethau tymor byr a chanolig er mwyn cyflawni nodau tymor hir;
  • Targedu egni yn y modd mwyaf cynhyrchiol posib, gan ystyried y cyfyngiadau sy’n bodoli yn sgil creisis Covid-19;
  • Creu strategaethau ar gyfer y dyfodol pan fydd y cyfyngiadau wedi eu codi;
  • Adnabod y gwerthoedd craidd wrth galon eu gwaith a phrosiectau unigol;
  • Canolbwyntio ar gryfderau unigol a nodau cyraeddadwy.

Bydd FireParty Lab yn ail-agor i dderbyn ceisiadau yn ddiweddarach yn 2020.