three people posing for a photo in chapter arts centre

Connector: Cinema Golau

Cinema Golau: platfform newydd i alluogi gwneuthurwyr ffilm addawol Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i gysylltu, ymwneud â, a chael mynediad at gyfleoedd yn y diwydiant creadigol.

Mae hefyd yn taflu goleuni ar ffilmiau annibynnol Du rhyngwladol gan eu dangos mewn sinemâu a lleoliadau lleol.   

Gyda chefnogaeth Cronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru mae Cinema Golau wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i bobl greadigol ddod at ei gilydd i drafod eu harferion gwaith. Mae rhaglen ‘The Filmmaker to Filmmaker’ yn caniatau sgyrsiau dadleuol, heriol ac agored mewn amgylchedd ddiogel, er mwyn ein goleuo ar y pleser a’r poen o weithio yn y diwydiant creadigol - ac yn y byd ffilm yn fwy penodol.

Mae’r digwyddiadau a gynhaliwyd hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Sgwrs rhwng Dionne Walker, cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac artist gweledol sydd wedi ei henwebu am wobrau BAFTA a BIFA, a June Givanni, curadur a sylfaenydd yr archif ffilm JGPA;
  • Dangosiad o ‘Hero - Inspired by the Extraordinary Life & Times of Mr. Ulric Cross’ gan Francis-Anne Soloman yn Chapter, fel rhan o daith Brydeinig y ffilm, gyda’r cyfarwyddwr yn bresennol;
  • Gweithdai ar-lein gyda’r animeiddiwr o Gymru, Kyle Legall, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Gŵyl Animeiddio Caerydd, gyda tynnu-llun-ar-y-cyd (draw-alongs) o ffigyrau eiconig yn hanes pobl Ddu a diwylliant poblogaidd, a sesiwn C&A gyda Kyle am ei arddull artistig a’i broses greadigol.

Yn ddiweddar bu i Cinema Golau hefyd greu partneriaeth gyda Gŵyl Ffilm Ryngwladol Windrush er mwyn dangos 3 ffilm o Gymru: windrushfilmfestival.com