people sitting in a cinema with the chapter moviemaker logo on screen

Connector: Chapter Moviemaker

Chapter MovieMaker: sefydlwyd y noson hon rai blynyddoedd yn ôl bellach i ddangos ffilmiau byrion gwneuthurwyr ffilm lleol. Fe’i cynhelir yn Chapter, Caerdydd bob mis.

Diolch i gefnogaeth Cronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru, mae Chapter MovieMaker wedi llwyddo i gynnal dangosiadau peilot yn Cinema & Co, Abertawe; wedi estyn gwahoddiad i siaradwyr gwâdd; wedi cyd-gynnal mentrau fel SHIFFT - Menywod sy’n Creu Ffilm; wedi darparu pecynnau o ffilmiau byrion o Gymru i lefydd eraill; wedi uwchraddio eu cyflwyniadau o Gaerdydd i fformat DCP.

Mae nifer o’r ffilmiau a ddewisiwyd ar gyfer eu dangos yng Nghaerdydd ac Abertawe wedi eu henwebu ac wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am Ffilm Fer.

Ar hyn o bryd mae Chapter yn cynnal dangosiadau MovieMaker ar-lein drwy Chapter Player, sy’n adlewyrchu fformat eu digwyddiadau byw arferol.

Gall gwneuthurwyr ffilm gysylltu â moviemaker@chapter.org am fanylion ymgeisio neu am unrhyw wybodaeth arall.