people sitting around a table learning about the film industry at a 73 connect event

Connector: 73 Connect

73 Connect: cyfres o ddigwyddiadau a gafodd eu teilwra’n benodol ar gyfer gwneuthurwyr ffilm newydd ac addawol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Cawsant gyfle i gysylltu â thalent & chwmnïau cynhyrchu profiadol, yn ogystal â chael cynnig arweiniad a chyfleoedd oedd yn canolbwyntio ar yrfa.

Cynhaliwyd 5 sesiwn, a gefnogwyd gan Cronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru, gydol fis Hydref 2019 ar amrywiaeth o bynciau, a cawsant eu harwain gan bobl sy’n gweithio’n y diwydiant: Rôl & Pherthynas Awdur / Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd, Datblygu Syniadau, Busnes Ffilm, Llwybr Gyrfa & Meddwl a Phitcho Strategol; Pecynnu a Chyflwyno.
 
‘Roedd y siaradwyr yn cynnwys Matt Redd & Ryan Hooper o gwmni cynhyrchu Standoff Pictures; Ade Shannon o gwmni cynhyrchu Mad as Birds; Faye Hannah o Colab, ein Cwmni Ymgynghori’r Diwydiannau Creadigol; Mike Corcoran, yr ymgynghorydd creadigol; a Dewi Griffiths, darlithydd ar gwrs MA Cynhyrchu Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae’r cyfweliadau gyda’r siaradwyr ar gael yma: