a person teaching another person how to make their own films with a camera

Connector: 104 FILMS & CHWMNI THEATR HIJINX

’Roedd y prosiect hwn, a gynhaliwyd yn 2018-2019, yn bartneriaeth rhwng Cwmni Hijix, cwmni theatr o Gaerdydd a arweinir gan anableddau, a 104 Films – un o brif arweinwyr rhyngwladol mewn sinema anabl.

Cefnogwyd y prosiect gan Gronfa Connector Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI Cymru. Y bwriad oedd datblygu prosiectau ffilm a ysbrydolwyd gan berfformwyr creadigol Hijinx, gan adeiladu ar lwyddiant prosiect ffilm Different Voices a arweiniwyd gan 104 Films, gyda Biggerhouse Films, ym Mryste.

Bu i’r partneriaid benderfynu gweithio gyda Biggerhouse Film er mwyn datblygu a chynhyrchu nifer o ffilmiau byrion. Datblygwyd chwe ffilm fer, gan gynnwys eu sgriptio a’u dychmygu, a chafodd tair eu cynhyrchu:

  • Triumph - Rich Newnham
  • Darkness and Light – Jack Wolf
  • Drifting and Ranting - Lindsey Foster

Drwy gynhyrchu eu ffilmiau eu hunain bu i berfformwyr creadigol Hijinx gael cyfle amhrisiadwy i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hyder wrth ymwneud â’r broses o greu ffilm. Dewisiwyd y ffilmiau i’w dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Byrion Encounters yn 2019, a fynychwyd gan y gwneuthurwyr ffilm eu hunain. Cawsant eu dangos hefyd yng Ngŵyl Ffilm Inclusion yng Ngogledd Cymru.

Ers hynny mae’r cyd-weithio rhwng Hijinx a 104 Films wedi arwain at brosiectau ffilm eraill, yn ogystal â gweithdy animieddio Niwro-Amrywiaeth a chynhadledd yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd: cardiffanimation.com/different-voices-workshop

 

In producing their own films, creative performers at Hijinx hugely developed their understanding and confidence of the filmmaking process. The films were selected to premiere at the Encounters Short Film Festival in 2019, which was attended by the filmmakers. They also screened at the Inclusion Film Festival in North Wales.

The collaboration between Hijinx and 104 Films has since led to further film projects and a NeuroDiverse animation workshop and conference at Cardiff Animation Festival: cardiffanimation.com/different-voices-workshop.