Kimberley Warner

kimberley warner

Daeth Kimberley i’r diwydiant trwy swyddi gwerthu a dosbarthu pan oedd rhyddhau ffilmiau digidol yn dal yn ei fabandod. Yn fuan iawn, daeth yn feistr ar y cyfrwng newydd gan herio’r rhai oedd yn arwain y diwydiant ar y pryd. Fel Pennaeth Caffael yn Journeyman Pictures, helpodd i adeiladu eu sianel YouTube gan gyrraedd gyrraedd statws Deg Gorau sianeli tanysgrifio, a daeth ag ôl-gatalog Ken Loach ar lein am y tro cyntaf. Fel Pennaeth Caffael a Datblygu gyda’r dosbarthwr ffilmiau dogfen nodwedd, Mercury Media, llwyddodd Kimberley i gael arian gan EU Media i adeiladu Joining The Docs - y llwyfan SVOD cyntaf yn y byd ar gyfer ffilmiau dogfen – gan argyhoeddi The Independent i fwndelu tanysgrifio gyda’u model tanysgrifio newydd eu hunain ac annog gwneuthurwyr ffilmiau i ddechrau adeiladu eu cynulleidfaoedd ar lein.  Ar ôl gweithio gyda mawrion gwneuthurwyr ffilm, fel Kim Longinotto, Franny Armstrong a James Moll, trodd Kimberley ei llaw at gynhyrchu creadigol.  Cafodd ei phrosiect diweddaraf Claude Lanzmann: Spectres of the Shoah ei enwebu ar gyfer Grierson, Cinema Eye Honors, IDA ac Oscar yn 2016.

Fel Pennaeth Busnes Creadigol yn Ffilm Cymru Wales, mae Kimberley yn arwain y strategaeth ar gyfer yr adran dalent, sydd wedi’i seilio ar feddylfryd Magnifier o elwa ar werth gwneud ffilmiau ar draws gwahanol Eiddo Deallusol. Felly, hi sy’n goruchwylio digwyddiadau talent a gwobrau ariannu ac mae’n edrych ymlaen tuag at ddyfodol Ffilm Cymru Wales fel brand sy’n herio.