Bronwen Lloyd

bronwen lloyd

A hithau wedi ymddeol yn ddiweddar ac yn ffan ffilmiau ers amser maith, mae Bron yn cynnig profiad sylweddol fel cyn Bennaeth Adfywio cyflenwr tai cymdeithasol Charter Housing (Pobl bellach). Am 30 mlynedd, bu Bron yn gweithio gyda phobl a chymunedau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy brosiectau arloesol sy’n hybu cydraddoldeb a dinasyddiaeth, ac yn cynyddu gweithgarwch economaidd a rhwydweithiau cymdeithasol. Mae’n teimlo’n angerddol am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb (gan arwain ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ran Grŵp Pobl a chyflawni Nod Ansawdd y Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol) ac yn benodol effaith hynny ar fenywod (gan arwain ar fenter lwyddiannus ‘Rhydd o Ofn’ Landlordiaid Cymdeithasol Gwent i wella eu hymateb i drais domestig).

Yn anfwriadol y daeth Bron i weithio ym maes Tai, fel aelod o Fwrdd ei chymdeithas tai lleol (dylunydd ydyw o ran hyfforddiant). Mae wedi gweithio yn y rhan fwyaf o agweddau ar dai gan gynnwys digartrefedd, rheoli tai, adfywio, polisi a strategaeth a hynny ar lefel awdurdod lleol a chymdeithasau tai. Bu’n gwasanaethu ar Fyrddau sawl Cymdeithas Tai, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol, ac roedd yn rhan o sefydlu rhai o’r rhain gan gynnwys SCDC Moneyline Cymru, Undeb Credyd Casnewydd a Chymdeithas Pentref Loftus – menter gydweithredol tai gyntaf Casnewydd. Mae’n un o sylfaenwyr ac aelod o Fwrdd SHARE, menter gymdeithasol a chanolfan adnoddau cymunedol sy’n cael ei harwain gan y gymuned.