annes elwy kneeling in a dark forest in Gwledd

Picturehouse Entertainment yn Prynu Hawliau Dosbarthu yn y DU gan Bankside Films ar gyfer Gwledd gan Lee Haven Jones

Mae Picturehouse Entertainment wrth eu bodd eu bod am fod yn rhyddhau’r ffilm gyntaf i gael ei chyfarwyddo gan Lee Haven Jones, Gwledd, i sinemâu’r Deyrnas Unedig. Nid yw dyddiad rhyddhau’r ffilm yn hysbys eto.

Ffilm arswyd gyfoes o Gymru yw Gwledd, wedi’i hysgrifennu gan Roger Williams sydd hefyd yn cynhyrchu drwy gwmni cynhyrchu Joio. Ac yntau’n enillydd gwobr BAFTA Cymru, mae Haven Jones yn fwyaf adnabyddus am ei waith teledu gan gynnwys penodau o Doctor Who, The Bay a Vera.

Yn y Gymraeg mae Gwledd wedi’i ffilmio, a chaiff y stori ei datgelu dros gyfnod o un noson wrth i deulu cefnog ddod ynghyd i gael swper moethus yn eu tŷ rhwysgfawr yn y mynyddoedd yng Nghymru. Gŵr busnes lleol a ffermwr cyfagos yw’r gwesteion, a’r bwriad yw taro bargen fusnes i gloddio yn y yr ardal wledig o amgylch.

Pan mae menyw ifanc ddirgel yn cyrraedd i weini arnynt am y noson, caiff credoau a gwerthoedd y teulu eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel ond aflonyddgar ddechrau datod eu bywydau. A hynny’n araf, yn fwriadol, ac yn arwain at y canlyniadau mwyaf dychrynllyd.

Sêr y ffilm yw Annes Elwy (Little Women), Nia Roberts (Under Milk Wood) a Julian Lewis Jones (Justice League), ynghyd â Steffan Cennydd (Last Summer) a Sion Alun Davies (The Left Behind).

Cynhyrchwyd y ffilm drwy fenter Sinematig Ffilm Cymru Wales ac fe’i cyllidwyd gan S4C, Ffilm Cymru Wales, BFI (gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol) a Fields Park. Cynhyrchwyd y ffilm mewn cyswllt â Melville Media Limited gyda chymorth Great Point Media.

Trafodwyd y pryniad rhwng Clare Binns a Paul Ridd o Picturehouse Entertainment a Stephen Kelliher o Bankside Films.    

Meddai Clare Binns, Cyd-Reolwr Gyfarwyddwr Picturehouse: “Daeth y ffilm wych hon atom ni ar ffurf sgript i gychwyn – rydym ni’n dwlu ar weithio gyda chyfarwyddwyr newydd a phrosiectau arloesol, ac mae’r un yma yn fwy na chymwys. Mae’r sgript yn llawn dop o ddeallusrwydd, syniadau a throeon. Dyma’r tro cyntaf i ni weithio gyda ffilm yn y Gymraeg, ac rydym wrth ein bodd o gael cefnogi ffilmiau sydd wedi’u creu ym Mhrydain gan dalent lleol.”

annes elwy and nia roberts in the kitchen in Gwledd

Meddai’r cyfarwyddwr, Lee Haven Jones: “Pan oeddwn i’n fyfyriwr, sinema’r Picturehouse yn Exeter oedd ble y gwnes i fwydo fy angerdd at ffilmiau, ac felly’n naturiol rwy wrth fy modd â’r ffaith mai Picturehouse sydd nawr yn rhyddhau fy ffilm nodwedd gyntaf. Mewn llawer o ffyrdd, mae’n achos o wireddu breuddwyd!  Mae eu brwdfrydedd, eu hymroddiad a’u hangerdd at ffilmiau yn adnabyddus iawn – maen nhw’n bartner rhagorol ar gyfer y ffilm unigryw hon ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i gyflwyno Gwledd i gynulleidfaoedd ledled Prydain.”