a group of people pose for a photo after making a short film. One holds a camera and another a clapperboard.

Iris yn dathlu gwobr y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiect tair blynedd uchelgeisiol

Mae trefnwyr Gwobr Iris wedi lansio prosiect tair blynedd ledled Cymru sy'n gweithio gyda grwpiau cymunedol o bob cwr o'r wlad i drafod materion sy'n wynebu pobl LHDT+.

Gwnaeth Gwobr Iris gais llwyddiannus am £195,330 i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Gan weithio gyda'r gymuned LHDT+ a'u cynghreiriaid, mae'r tîm yn chwilio am grwpiau cymunedol a fydd, diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod yr amseroedd heriol hyn, yn cynhyrchu ffilm sy'n mynd i'r afael â materion sy'n wynebu'r gymuned LHDT+. Bydd pob un o'r ffilmiau gorffenedig ar gael i'w gwylio ar-lein.

Mae Gwobr Iris yn bwriadu adeiladu ar eu prosiect Iris yn y Gymuned blaenorol, gan greu mwy o gyfleoedd i aelodau'r gymuned wneud ffilmiau sy'n hyrwyddo ymgyrch dros newid.

Bydd Tîm Iris yn gweithio gyda 10 grŵp cymunedol i drafod materion sy'n wynebu'r gymuned LHDT+ a chynhyrchu ffilm mewn ymateb. Bydd buddiolwyr yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai actio, ac ennill sgiliau mewn gwneud ffilmiau ac ysgrifennu sgriptiau. Nid oes angen i'r grwpiau dan sylw weithio yn y gymuned LHDT+, ond byddant yn amrywiol yn eu haelodaeth, er enghraifft croesawu pobl ag anableddau dysgu.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Heb yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ni fyddem yn gallu cynnal y prosiect hwn. Rydyn ni wedi cael ein boddi gan grwpiau cymunedol ledled Cymru yn gofyn a allen ni weithio gyda nhw, a heddiw gallwn ni gadarnhau, gyda GALLWN MAWR iawn!

“Mae 2020 yn nodi 20 mlynedd ers diddymu un o’r darnau mwyaf dadleuol o ddeddfwriaeth i effeithio ar fywydau pobl LHDTI+ yn y DU: Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n grwpiau cymunedol ystyried a myfyrio ar ble rydyn ni heddiw fel pobl LHDT+. Mae'r ffaith y bydd gennym 10 ffilm wedi'u cynhyrchu ar ddiwedd y prosiect hwn yn fonws ychwanegol. Mae ffilm yn parhau i fod yn ffordd ddemocrataidd iawn i bobl rannu eu syniadau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rwy'n sicr y bydd ein grwpiau cymunedol yn elwa o'r profiad anhygoel hwn.”

Dylai grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn darganfod mwy ddechrau drwy ymweld â www.irisprize.org/community lle gallant lenwi ffurflen i fynegi diddordeb.

Dywedodd Derek Preston-Hughes, Rheolwr Cyllid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Gwobr Iris gyda’r prosiect hwn. Maent eisoes wedi chwarae rhan anhygoel wrth fynd i’r afael â materion a wynebodd y gymuned LHDT+ dros y blynyddoedd, ac mae’n wych eu bod bellach yn gallu adeiladu ar hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac i gymunedau ledled Cymru.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. I ddarganfod mwy am wneud cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu'ch cymuned i addasu, adfer a ffynnu, ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/wales

Y prif noddwyr yw: Sefydliad Michael Bishop, Llywodraeth Cymru, BFI yn dyfarnu arian o’r Loteri Genedlaethol, Ffilm Cymru Wales, Film4, Prifysgol De Cymru, Co-op Respect, Bad Wolf, Grŵp Gorilla, Peccadillo Pictures, Pinewood Studios, Cylchgrawn Attitude, Cylchgrawn Diva, a The Ministry of Sound.  

Mae'r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru, Pride Cymru a Stonewall Cymru.