screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Cynhyrchydd Llinell a Rheolwr Cynhyrchu

Mae’r Cynhyrchydd Llinell yn ganolog i gynhyrchiad, yn cyflogi’r criw, yn dyrannu’r arian ac yn gwneud yn siŵr bod y ffilmio’n digwydd yn ddiogel, yn greadigol, yn unol â’r gyllideb ac ar amser. Fel arfer, nhw fydd yr aelod uchaf o’r tîm cynhyrchu, ac yn ail yn unig i’r Cynhyrchwyr.

DATHYL EVANS

Dilyniant Gyrfa

  • 1994 – Ysgrifennydd Swyddfa / Gweinyddol yng nghwmni Teledu Opus, cwmni cynhyrchu teledu annibynnol yn seiliedig yng Nghaerdydd. Cefais y profiad o weithio ar amryw raglenni gan gynnwys adloniant ysgafn, darlledu allanol a digwyddiadau
  • 1995 – Dyrchafiad yn y cwmni i fod yn Gydlynydd Cynhyrchu ar gyfres ddrama S4C (Y Palmant Aur) a fu’n rhedeg am 3 cyfres
  • 2001 – Dechrau fel Cydlynydd Cynhyrchu yn adran ddrama BBC Cymru. Gweithio ar raglenni rhanbarthol a rhwydwaith.
  • 2003 – 2005 Cydlynydd Cynhyrchu ar amryw ddramâu’r BBC: ‘Casualty’, a ‘Doctor Who’
  • 2005 – Dychwelyd i weithio yng nghwmni Teledu Opus fel Rheolwr Cynhyrchu llawrydd ar gyfres ddrama newydd sbon i S4C (Cowbois ac Injans)
  • 2005 – Presennol – Rheolwr Cynhyrchu llawrydd yn gweithio ar ddramâu, rhaglenni dogfen arsylwadol a rhaglenni adloniant i amryw ddarlledwyr gan gynnwys S4C, BBC, Channel 4 a Channel 5

Nodau Gyrfa i’r Dyfodol

  • Parhau i weithio ar gynyrchiadau drama o’r radd flaenaf fel Rheolwr Cynhyrchu, a Chynhyrchydd Llinell yn y pen draw.

Uchafbwyntiau Gyrfa

  • Rwy’n falch o fod wedi gweithio ar amrywiaeth eang o raglenni, o ddramâu poblogaidd i raglenni dogfen arsylwadol, sydd wedi’u gwylio gan gynulleidfaoedd mawr, e.e. Doctor Who, One Born Every Minute.

portrait of dathyl evans