screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Cynhrychydd Gweithredol

Mae’r Cynhyrchydd Gweithredol yn gweithio ar ochr ariannol, ymarferol a chreadigol ffilmiau neu ddramâu teledu. Nhw’n aml yw’r cyntaf i chwarae eu rhan, yn darganfod cyfle creadigol a hyfywedd masnachol cynhyrchiad. Maen nhw’n parhau i yrru pethau yn eu blaen yr holl ffordd hyd at y dosbarthu.

Philip Trethowan

Dechreuodd Phil ar ei yrfa ym maes drama i’r teledu fel cynorthwyydd yn adran ddrama Carlton TV – yn darllen sgriptiau, ymchwilio a gwneud coffi. Ond bu i’w amynedd dalu ffordd gan ddod yn Olygydd Sgriptiau ar nifer o raglenni ar gyfer ITV fel Big Bad World a The Vice.  O’r fan honno, symudodd ymlaen i weithio fel Cynhyrchydd Stori i amryw operâu sebon a chyfresi parhaus fel Crossroads, Emmerdale a Mile High. Wedi hynny, aeth i weithio i gwmni annibynnol Touchpaper Television, lle bu’n Gynhyrchydd a Chynhyrchydd Gweithredol ar nifer o raglenni, yn fwyaf nodedig cyfres boblogaidd BBC Three, Being Human, a’r ffilm Ellen a enillodd sawl gwobr. Yn 2017 gadawodd i sefydlu BlackLight TV gyda’r cyd-sylfaenydd Ben Bickerton. Mae BlackLight yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gweithio gyda thalentau newydd ac amrywiol, gan redeg cynllun talent newydd blynyddol 4Stories i Channel 4. Mae BlackLight yn rhan o Banijay Group.

portrit of phil trethowan