screen careers logo

Gyrfaoedd Sgrin: Cyfarwyddwr yr 2il Uned a Chydlynydd Styntiau

Ar lawer o ffilmiau, bydd rhai darnau o olygfeydd yn cynnwys styntiau lle nad oes angen yr actorion, a bydd y rhain yn cael eu cyfarwyddo gan Gyfarwyddwr 2il Uned a chriw ffilmio ar wahân. Mae hyn wedyn yn caniatáu i’r Cyfarwyddwr Prif Uned barhau i ffilmio gyda’r actorion a’r criw ffilmio ar wahân mewn lleoliad gwahanol.

Lee Sheward

Dilyniant Gyrfa

  • O 1983 hyd at ddiwedd 1984, gweithiais fel awyrgampwr syrcas gan deithio o amgylch Prydain.
  • Rhwng 1985 a 86 teithiais gyda sioe ymwanu ganoloesol a gweithiais fel ecstra ar ffilmiau.
  • Ym 1986 ymunais â’r British Equity Stunt Register, ar yr oedran ieuengaf posibl.
  • Ar ôl cymhwyso yn Gydlynydd Styntiau ym 1991, dechreuais Gydlynu ffilmiau a rhaglenni teledu yn ogystal â gweithio fel perfformiwr styntiau, ac rwy’n parhau i wneud hynny.
  • Yn 2010, gofynnwyd i mi gyfarwyddo 2il uned ar ffilm nodwedd a oedd yn cael ei ffilmio yn Sbaen, a dyna agor ar y bennod nesaf yn fy ngyrfa fel aelod o Urdd Cyfarwyddwyr America.

Nodau Gyrfa

  • Parhau i deithio’n fyd-eang a chreu darnau o ffilm y bydd pobl yn mwynhau eu gwylio.
  • A helpu’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr styntiau i weithio’n ddiogel a dysgu o’n profiadau ni.

Uchafbwyntiau Gyrfa

  • Aelodaeth Ecwiti, SAG, BAFTA a’r DGA yn ogystal â theithio’n fyd-eang.
  • Cydlynu a chyfarwyddo tra’n byw yn California.
lee sheward

"I can bring experience from the physical world to the writing and creating" - Lee Sheward