the cardiff animation festival poster

Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2020 yn teithio’r byd!

Bydd yr ŵyl oewdd i’w chynnal yng ngwanwyn 2020 bellach yn cael ei chynnal ar-lein tan ddiwedd y flwyddyn

Mae Cardiff Animation Festival wedi bod yn cynnal gweithgareddau ar-lein i gynulleidfa o bedwar ban byd ers mis Mawrth eleni, pan fu’n rhaid gohirio yr ŵyl ym mis Ebrill o ganlyniad i bandemig COVID-19. Bellach bydd y cyfan yn cael ei gynnal ar-lein am weddill y flwyddyn, gan ddangos y gwaith animeiddio newydd gorau o Gymru a’r byd i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Dywedodd Lauren Orme, Cyfarwyddwr Cardiff Animation Festival: “Roedd hi’n siom fawr gorfod gohirio’r ŵyl nôl ym mis Mawrth, ond mae cynnal gweithgareddau ar-lein wedi rhoi ail wynt i ni, a’n galluogi i ddod ȃ’n cynulleidfa ynghŷd a’i diddanu er win bod ni methu cyfarfod wyneb yn wyneb. Rydyn ni wrth ein bodd gallu aildrefnu digwyddiadau Cardiff Animation Festival 2020 ar-lein ar gyfer oedolion, teuluoedd, animeiddwyr a gwylwyr weddill y flwyddyn.”

Bydd Cardiff Animation Festival yn dangos rhaglen lawn o ffilmiau byr ar-lein rhwng dydd Sadwrn 24 Hydref a dydd Sul 1 Tachwedd. Caiff 118 ffilm fer o safon rhyngwladol eu dangos mewn saith rhaglen thematig i oedolion, a dwy raglen i blant. O’r myrdd o straeon unigryw gan leisiau o gefndiroedd amrywiol o bedwar ban byd dewisir enillwyr gwobrau Cardiff Animation Festival, fydd yn cael eu cyflwyno ar-lein ar ddydd Sul 1 Tachwedd. A bdd yr ŵyl hefyd yn rhoi llwyfan i rai o ffilmiau animeiddio byr gorau Cymru mewn rhaglen Gymreig ar y cyd ȃ Chapter Moviemaker.

Ar ddydd Sadwrn 24 Hydref bydd yr animeiddiwr Simon Chong yn ymuno yn fyw o LA lle mae heddiw’n byw a gweithio fel Cyfarwyddwr ar Bob’s Burgers. Ar ôl i awdur y sioe, Loren Bouchard, weld ei fersiwn gartref yn plethu Bob’s Burgers ac Archer cafodd cynnig swydd ar un o hoff raglenni animeiddio’r byd. Bydd Simon yn datgelu mwy am ei siwrnai anghyffredin, ac yn ymuno â Melin Edomwonyi o Creative Mornings Cardiff am sesiwn gwestiwn ac ateb fyw i esbonio sut beth yw gweithio ar eich hoff sioe.

Bydd yr ŵyl yn gwahodd cynulleidfaoedd i brydferthwch Moominvalley gyda’r Cyfarwyddwr Pennodau Avgousta Zoureldi gan roi cyfle i bobl o bob oed ddysgu sut y daeth Gutsy Animations ȃ byd hudolus Tove Jansson a’r Moomins yn fyw ar y sgrîn fach. Gall gwylwyr hefyd fynd gamu i ganol tywyllwch Heart of Darkness. Mae’r ffilm animeiddio tywod hir gyntaf erioed yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd yng Nghaerdydd a bydd y Cyfarwyddwr, Gerald Conn, yn rhoi cip tu ôl i’r llenni ar yr addasiad o nofel gignoeth Joseph Conrad.

Ymhlith y paneli diwydiant bydd Adrodd Stori ar gyfer Animeiddio, gyda thrawstoriad o weithwyr y byd animeiddio yn trafod beth sy’n gwneud stori dda dan gadeiryddiaeth yr awdur a’r cyfarwyddwr gwobrwyog Evgenia Golubeva. Bydd yr ŵyl yn meithrin, ac yn rhoi llwyfan i animeiddwyr niwroamrywiol ar y cyd ȃ Biggerhouse Film, ac ar ddydd Gwener 30 Hydref bydd cyfle i gynulleidfaoedd weld gwaith newydd sbon a chyfrannu at drafodaeth ar niwroamrywiaeth yn y byd animeiddio. Caiff animeiddwyr hefyd gyfle i gael adborth proffesiynol ar eu gwaith mewn Animation Grill ar-lein sy’n cael ei adfywio gan Gareth Cavanagh ar gyfer Cardiff Animation Festival 2020 ar-lein.

Yn agor y rhaglen o ffilmiau byr ar nos wener 23 Hydref bydd fersiwn arbennig o Cardiff Animation Nights - y noson bob deufis lle dechreuodd y cyfan. Dangosir y ffilmiau fel arfer ym mar Kongs yng Nghaerdydd, ond ers mis Ebrill mae Cardiff Animation Nights wedi eu cynnal ar-lein gyda dros 1000 o Gaerdydd ac ar draws y byd yn tiwnio i mewn i wylio ffilmiau animeiddio annibynnol a mwynhau’r holl emojist yn y chat!

Mae’r tîm wedi bod yn cynnal diwgyddiadau ar-lein ers Ebrill 2020 diolch i nawdd Cronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru, Film Hub Wales fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) y BFI, y Loteri Genedlaethol, a FilmFeelsConnected, tymor sinema ar draws y DU a gefnogir gan y Loteri Genedaethol a BFI (FAN). Cefnogwyd Cardiff Animation Festival Climate Assembly ym mis Ebrill gan Clwstwr, lle ymunodd cynrychiolwyr y diwydiant o bedwar ban byd i drafod sut i wneud y diwydiant yn fwy gwyrdd. Cydweithiodd yr ŵyl gyda ScreenSkills i gynnig dosbarth meistr Sgwrs gyda Lorraine Lordan gan godi’r llen ar yrfa yn cyfarwyddo animeiddio, a thrafodaeth banel Cynhwysiad mewn Animeiddio i weld sut allwn ni greu diwydiant tecach a mwy amrywiol. Cynhaliwyd gweithdai creadigol ar-lein gan gynnwys cyflwyniad Cymraeg i fodelu gyda’r animeiddiwr Laura Tofarides, a gweithdau darlunio gyda’r artist o Gaerdydd Kyle Legall mewn partneriaeth gyda Cinema Golau. Mae’r Cardiff Animation Nights misol wedi dod â ffilmiau byr annibynnol ii gynulleidfaoedd hen a newydd, gyda dros 300 o enwau newydd yn tanysgrifio i sianel YouTube Cardiff Animation, tra bod Cardiff Animation Kids ar fore Sadwrn wedi bod yn cyflwyno plant i animeiddio annibynnol.

a srtill from heart of darkness featuring a steamship on a jungle river

Noddir Cardiff Animation Festival gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, a Canolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa’r BFI Film (FAN), BFI NETWORK Wales, ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards, gyda nawdd ychwanegol gan Cloth Cat Animation, Picl Animation, Creative Europe Desk UK – Cymru, Prifysgol De Cyrmu, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Jammy Custard Animation, Gwobrau Animeiddio Prydain, S4C a Chronfa Sgiliau Animeiddio ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau animeiddio o’r DU.