Billie Piper directs Rare Beasts

Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd

Drwy'r gronfa hon, rydyn ni'n cefnogi ffilmiau naratif gweithredu byw neu animeiddiedig gwreiddiol, sydd wedi'u hanelu i’w rhyddhau yn y sinema ac sy'n cael eu harwain gan awduron, cyfarwyddwyr neu gynhyrchwyr sy'n enedigol o Gymru neu’n seiliedig yng Nghymru.

Mae cyllid cynhyrchu Ffilm Cymru'n cynnwys arian o Gronfeydd y Loteri Genedlaethol a ddirprwywyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chronfeydd Cyfalaf Llywodraeth Cymru a ddirprwywyd drwy Gymru Greadigol.

Pwy all wneud cais?

Er mwyn gwneud cais i’r gronfa hon mae'n i chi fodloni’r canlynol:

  • Prosiect ffilm nodwedd wreiddiol gyda’r bwriad i’w rhyddhau yn y sinemaHave a single feature length film or documentary proposal which is intended for cinema. 
  • Talent a anwyd neu sy’n seiliedig yng Nghymru yn rôl y prif awdur, cynhyrchydd a/neu gyfarwyddwr. 
  • Yn gallu gwneud cais drwy gwmni sydd wedi ei gofrestru ac yn cael ei reoli'n ganolog yn y DU.  Y cynhyrchydd ddylai arwain y cwmni hwn. 
  • Cynllun dichonadwy i'r ffilm gael ei hariannu'n llawn o fewn chwe mis.

Yn ogystal â hyn, mae Ffilm Cymru yn canolbwyntio ei fuddsoddiad ar brosiectau sy’n cyd-fynd ag un neu fwy o’r canlynol:

  • Gwneuthurwyr ffilmiau o Gymru mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfaoedd.
  • Ffilmiau, sy'n cael eu harwain gan wneuthurwyr ffilmiau sydd wedi’u tangynrychioli a/neu yr uniaethir â nhw gan gynulleidfaoedd sydd yn draddodiadol wedi tan-wasanaethu gan ffilmiau nodwedd  gan gynnwys ffilmiau Cymraeg.
  • Ffilmiau sydd â gwerth artistig cryf, sy’n mentro o ran talent, cynnwys neu ffurf y byddai'r sector masnachol yn ei chael yn anoddach i'w cefnogi.
  • Ffilmiau sy'n darlunio Cymru a diwylliant Cymru mewn ffyrdd newydd ac anghonfensiynol.

Am faint allaf i wneud cais?

Gall Ffilm Cymru ddyfarnu hyd at uchafswm o £600,000 ond rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o’r dyfarniadau fod rhwng £150,000 a £400,000. Mae hefyd yn bwysig nodi na all Ffilm Cymru ariannu prosiectau yn llawn ac fel arfer ni fyddai'n disgwyl i'n buddsoddiad fod yn fwy na 50% o'ch cyllideb.

Dyddiadau Cau

Gallwch fynegi eich diddordeb ar gyfer ein cyllid cynhyrchu ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau llawn am arian cynhyrchu ar unrhyw adeg ond bydd yn rhaid adolygu ceisiadau am £50,000 neu fwy yng nghyfarfod chwarterol nesaf y Bwrdd. Bydd angen i dîm cynhyrchu Ffilm Cymru ysgrifennu adroddiad llawn am eich cais yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn o’r Bwrdd, a gaiff ei gyflwyno iddynt ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gyflwyno eich ffurflen gais gymaint â phosibl cyn dyddiad cyfarfod y Bwrdd ac yn y cyfnod cyn y cyfarfod, bydd gofyn i chi fod ar gael i drafod eich prosiect gyda'r swyddog gweithredol sy’n rheoli eich cais. Dyma ddyddiadau cyfarfodydd nesaf y Bwrdd:

  • 4 Mawrth 2024
  • 28 Mehefin 2024
  • 27 Medi 2024
  • 13 Rhagfyr 2024

Manylion Cyswllt

Rhaid i’r ceisiadau wedi’u cwblhau gael eu hanfon mewn e-bost i applications@ffilmcymruwales.com, oni bai ein bod wedi cytuno ar ffurf arall i’w gyflwyno. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau ynghylch mynediad, cysylltwch â’r ddau berson yma: 

Kiah Simpson, Swyddog Gweithredol Cynhyrchu: kiah@ffilmcymruwales.com  
Ihsana Feldwick, Cydlynydd yr Adran Dalent: ihsana@ffilmcymruwales.com  

creative wales logo
arts council of wales logo