young people making a film in the street

Cronfa Prosiect Addysg Ffilm

Mae Ffilm Cymru’n cefnogi prosiectau cyffrous a fydd yn ysbrydoli pobl o bob rhan o Gymru i gael gweld, mwynhau, deall, creu, archwilio a rhannu ffilm gydol eu hoes. Mae addysg ffilm yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd rydyn ni’n deall ffilm a sut mae storïau’n cael eu hadrodd trwy’r cyfrwng amlbwrpas hwn.

Pwy all ymgeisio?

Ymarferwyr Addysg Ffilm Annibynnol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithio i ehangu cyrhaeddiad addysg ffilm yng Nghymru.

Am faint gai ymgeisio?

Yn 2022-23, mae’r alwad yn agored i geisiadau lle gellir gofyn am hyd at £22,000 (hyd at 90% o gyfanswm y costau) i gefnogi gweithgaredd sy’n digwydd ym mhob rhanbarth o Gymru – y De, y Canolbarth a Gogledd Cymru. Os yw'ch prosiect yn cael ei gynnal mewn sawl rhanbarth, mae croeso i chi wneud cais am yr uchafswm ar gyfer pob rhanbarth rydych chi'n gweithio ynddo.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer Cronfa Prosiect Addysg a gyrrwch e-bost at education@ffilmcymruwales.com i ofyn am gyfarfod neu sgwrs ffôn er mwyn Datgan Diddordeb.

Dyddiad Cau

8 Awst 2022

Anghenion Mynediad 

I ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad, er enghraifft unigolion B/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu’n bobl niwroamrywiol, a phobl sydd â nam ar eu golwg, mae rhagor o gefnogaeth ar gael er mwyn cwblhau cais. Er enghraifft, gallwn gyflenwi costau dehonglwr BSL er mwyn i chi cynnal cyfarfod gyda ni cyn i chi wneud cais, neu gynnig cefnogaeth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig. Sylwch na allwn gyflenwi costau ble mae cyllid arall eisoes ar gael e.e. cefnogaeth Mynediad i Waith. Ni allwn chwaith gyflenwi costau prynu caledwedd neu feddalwedd.  
 
I’r rheiny sydd ag angion mynediad, gallwn hefyd dderbyn ffurflenni cais drwy’r post, neu atebion mewn fformatau amgen fel fideo byr neu ddec sleidiau. Dylid cytuno ar y fformat gyda ein tîm cyn cyflwyno’r cais.  
 
Cysylltwch â Nicola Munday, Rheolwr Cynulleidfa & Addysg Ffilm Cymru, gan ddefnyddio’r manylion isod er mwyn trafod eich anghenion cyn i chi wneud eich cais.  

Manylion Cyswllt

Mae’r Gronfa Addysg Ffilm yn cael ei rheoli gan adran Cynulleidfa & Addysg Ffilm Cymru.

Nicola Munday
Rheolwr Cynulleidfa & Addysg
nicola@ffilmcymruwales.com

Canllawiau

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyllid ar gyfer y Gronfa Prosiect Addysg Ffilm darllenwch y Canllawiau.