annes elwy and michael smiley in the toll

Ffilm y gorllewin gwyllt o orllewin cymru wedi'i dewis i gael ei dangos am y tro cyntaf yn glasgow

Bydd y ffilm gyntaf i gael ei chyfarwyddo gan Ryan Andrew Hooper, The Toll, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow fis Chwefror eleni. 

Wedi’i chynhyrchu drwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru, disgrifir The Toll gan Ŵyl Ffilm Glasgow fel ffilm sy’n “cymysgu comedi dywyll y Brodyr Coen gyda gwrth arwr ffilmiau cowbois sbageti Sergio Leone ... cadwyn orffwyll o ddigwyddiadau sy'n arwain at ddiweddglo epig a syfrdanol".

Mae Michael Smiley (Kill List) yn serennu fel y casglwr tollau traffig gyda chefndir troseddol gydag Annes Elwy (Gwledd / The Feast), y plismon traffig lleol y mae ei llwybr yn arwain yn anorfod at y fwth y casglwr tollau. Hefyd yn serennu yn y ffilm mae Iwan Rheon (Game of Thrones), Paul Kaye (The Stranger), Gwyneth Keyworth (Black Mirror), Steve Oram (Sightseers), a Julian Glover (Indiana Jones and the Last Crusade).

Y cynhyrchwr oedd Mark Hopkins, ar ran Western Edge Pictures, ysgrifennwyd y sgript gan Matt Redd, a ysgrifennodd hefyd Ambition, ffilm fer ‘Beacons’, BFI NETWORK Cymru, gyda Simon Russell Beale yn serennu ac a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Dinard yn 2019.  Ar hyn o bryd, mae’r gwneuthurwyr ffilmiau’n datblygu ffilm nodwedd gomedi ddu The Life and Death of Daniel Dee gyda chefnogaeth Ffilm Cymru.

Oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo, mae Gŵyl Ffilm Glasgow  wedi symud ei rhaglen gyfan ar lein ar lwyfan ŵyl rithiol. Bydd The Toll yn cael ei dangos rhwng 25 a 28 Chwefror a bydd tocynnau ar werth o Ddydd Llun 18 Ionawr.

Mae’r cynllun Sinematig yn cael ei ariannu gan Ffilm Cymru a Sefydliad Ffilm Prydain ac yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol, S4C, Great Point Media a Fields Park Media Partners.