girls making an animated film

Cynefin – Ein Croeso

Yn 2018, bu trafodaeth yn Neuadd Les Ystradgynlais ar beth yr oedd hyn yn ei olygu i’w cymuned, trwy gynnal prosiect animeiddio yn gweithio gydag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn y Glowyr a theuluoedd o Syria yn Ystradgynlais.

Canlyniadau

  • Cafodd Neuadd Les Ystradgynlais gyfle i ganolbwyntio ar weithio’n greadigol gyda theuluoedd o Syria a chael arbenigwyr animeiddio proffesiynol i’w helpu i adrodd eu hanesion. Cysylltodd Cynefin gyda’r teuluoedd yn greadigol gan gynnig sgiliau newydd a rhoi cyfle i’r Neuadd Les gysylltu â’r gymuned ehangach trwy ffilm.
  • O ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith addysg ffilm a wnaed a’r ffilmiau a grëwyd, cryfhaodd y prosiect berthynasau gyda sefydliadau partneriaeth lleol, megis Sefydliad Josef Herman ac ysgolion yr ardal. Roedd hynny’n amlwg o'r gynulleidfa dda o’r gymuned a ddaeth i weld y ffilm ac yr oedd yn amlwg hefyd y llwyddwyd i ddod â’r gymuned at ei gilydd a bod y ddigwyddiad yn un oedd yn wirioneddol bontio’r diwylliannau a’r cenedlaethau.
  • Cafodd pob yn a gymerodd rhan brofiad ymarferol, creadigol o’r radd flaenaf yn y sesiynau gweithdy. Roedd yn galluogi pawb a oedd yn cymryd rhan i gael llais, i ddysgu sgiliau newydd mewn ysgrifennu sgriptiau, animeiddio a cherddoriaeth, yn ogystal â chael  cyfle i weld eu gwaith ar y sgrîn.

Llwyddiannau

Daeth y prosiect â’r gymuned at ei gilydd trwy wneud a rhannu ffilmiau animeiddio, a wnaed gan aelodau o bob oed ac o bob cefndir diwylliannol o'r gymuned. Cododd y ffilmiau ymwybyddiaeth a dangos mor bwysig y mae aelodau ifanc o’r gymuned yn teimlo yw darparu lloches i deuluoedd o Syria a theuluoedd eraill. Daeth hynny’n amlwg yn y ddwy ffilm, a oedd wedi’u gwneud yn gywrain ac a gafodd gefnogaeth oddi wrth yr actor Hollywood, Michael Sheen. Cafwyd nifer o geisiadau eraill i ddangos y ffilm, gan gynnwys oddi wrth Lloches i Ffoaduriaid y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth.