Siobhan Lynn Brennan

siobhan lynn brennan

Mae Siobhan yn gweithio’n gyda Ffilm Cymru yn cydlynu gwaith digwyddiadau hyfforddi  a sgiliau o ddydd i ddydd.

O’r blaen, bu’n gweithio fel cyfarwyddwr, hyrwyddwr a chydlynydd llawrydd digwyddiadau theatr. Ar ôl graddio o Brifysgol Warwick gyda MA mewn Llenyddiaeth Saesneg, bu’n gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman a Theatr Deithiol Lloegr, ymysg eraill. Yn ogystal bu’n hrwyddo gweithdai hyfforddi a sgiliau gyda phobl ifanc ar gyfer yr elusen FirstGive, Canolfan y Mileniwm Cymru a chwmni theatr Mess Up The Mess a helpu i gydlynu digwyddiadau ar y cyd â’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru ac adran ffilm Canolfan y Celfyddydau Chapter.