Yr Athro Ruth McElroy

Professor Ruth McElroy

Mae Ruth McElroy yn ymuno â Ffilm Cymru fel Cadeirydd gan gynnig ei phrofiad a’i harbenigedd fel Pennaeth Ymchwil Cyfadran ac Athro’r Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, ac aelod o grŵp Polisi’r Cyfryngau yn y Sefydliad Materion Cymreig. Mae McElroy hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr y Clwstwr Creadigol, un o naw o bartneriaethau ymchwil a datblygu ym Mhrydain a ariennir drwy Economi Creadigol yr AHRC, ac mae’n arwain ar elfen Arloesi Sgrin y bartneriaeth newydd gyffrous hon yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Ruth ar ei gyrfa academaidd drwy astudio ar gyfer PhD ac addysgu fel cynorthwyydd graddedig ym Mhrifysgol Caerhirfryn yn y Sefydliad er Astudiaethau Menywod. Ers hynny ymgymerodd â swyddi academaidd mewn pum prifysgol ym Mhrydain a bu’n gweithio fel arholwr allanol mewn sawl prifysgol arall. Bu’n chwarae rôl ganolog wrth arwain ar gyflwyniadau Ymarferion Asesu Ymchwil 2008 a 2014, a chafodd y fraint o arwain sawl cwrs gradd ac ôl-radd. Bu Ruth yn arholi ymgeiswyr doethurol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn goruchwylio myfyrwyr ymchwil, hyd at gwblhau’u gradd, a aeth yn eu blaenau i ddatblygu eu gyrfaoedd academaidd eu hunain.