John Giwa-Amu

john giwa-amu

Mae John newydd gyd-gynhyrchu The Silent Storm, sydd â Damian Lewis (Homeland) ac Andrea Riseborough (Resistance, Oblivion) yn serennu ynddi, gyda Neon Films, Eon Films Barbara Broccoli, New Sparta, The British Film Company a Ffilm Cymru Wales. Dewiswyd The Silent Storm i gael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain BFI. Rhyddhawyd y ffilm gyffro ffuglen wyddonol The Machine, sydd â Toby Stephens (Die Another Day, Black Sails), Caity Lotz (The Pact, Arrow) a Denis Lawson (Star Wars) yn serennu ynddi, mewn sinemâu ym mis Mawrth 2014 gan gyrraedd rhif dau yn siartiau iTunes Prydain. Mae cwmni John, Red and Black Films, yn parhau i ddatblygu ac ariannu llechen gysyniadol sy’n rhoi cryn bwys ar genre. Mae John yn aelod o Grŵp Polisi Ffilm Pact, yn gweithio gyda BBC Cymru i fentora cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr newydd, ac yn ddarlithydd gwadd gyda’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol a Phrifysgol Cymru.