Gavin Porter

gavin porter

Mae Gavin Porter yn wneuthurwr ffilm/dogfen/theatr o Butetown yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda National Theatre Wales fel cydlynydd prosiect ar The Agency, sy’n rhoi lle canolog i bobl ifanc wrth ddatblygu prosiectau a busnesau sydd ag iddynt ddiben cymdeithasol.

Yn flaenorol, creodd Gavin brosiect theatr cyfranogol o’r enw The Big Democracy Project gyda National Theatre Wales gan weithio ledled Cymru, a’r penllanw oedd ‘gŵyl o ddemocratiaeth’ yn y Senedd.

Mae Gavin yn Gymrawd Clore ac enillodd wobr BAFTA Cymru fel cyfarwyddwr ffilm fer orau.